Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mercher,
3 Tachwedd 2021
Amser y
cyfarfod: 13.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/12492
------
Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.
1 Cwestiynau i Weinidog yr Economi
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog a Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon ar ôl cwestiwn 2.
2 Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Dechreuodd yr eitem am 14.19
Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Atebwyd cwestiynau 2 a 5 gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog a’r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol ar ôl cwestiwn 2.
3 Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Y Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru)
Dechreuodd yr eitem am 15.07
4 Cwestiynau Amserol
Dechreuodd yr eitem am 15.42
Atebwyd gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd
Mabon ap Gwynfor (Dwyfor Meirionnydd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar benderfyniad Llywodraeth Cymru i ganslo ffordd gyswllt Llanbedr yng Ngwynedd?
Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, am 15.52 cafodd y cyfarfod ei atal dros dro gan y Llywydd.
5 Datganiadau 90 Eiliad
Dechreuodd yr eitem am 16.03
Gwnaeth Tom Giffard ddatganiad am y Diwrnod Rhyngwladol yn erbyn Trais a Bwlio yn yr Ysgol, gan gynnwys Seiberfwlio.
Gwnaeth Elin Jones ddatganiad am ben-blwydd Cyngor Llyfrau Cymru yn 60 oed.
Gwnaeth Peter Fox ddatganiad am ymgyrch 'Bang Out of Order' RSPCA ac effaith tân gwyllt ar les anifeiliaid.
Gwnaeth Jayne Bryant ddatganiad i nodi 35 mlynedd o Childline.
6 Dadl ar ddeiseb P-05-912 Cynorthwyo teuluoedd sy’n colli plant a phobl ifanc yn sydyn ac yn annisgwyl
Dechreuodd yr eitem am 16.10
NDM7814 Jack Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy)
Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi’r ddeiseb ‘P-05-912 Cynorthwyo teuluoedd sy’n colli plant a phobl ifanc yn sydyn ac yn annisgwyl’ a gasglodd 5,682 o lofnodion.
P-05-912 Cynorthwyo teuluoedd sy’n colli plant a phobl ifanc yn sydyn ac yn annisgwyl
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
7 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig – Adferiad gwyrdd
Dechreuodd yr eitem am 16.59
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM7815 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi bwriad Llywodraeth Cymru i hyrwyddo adferiad gwyrdd yn ystod chweched tymor Senedd Cymru.
2. Yn nodi ymhellach gynllun 10 pwynt Llywodraeth y DU ar gyfer chwyldro diwydiannol gwyrdd.
3. Yn croesawu penodiad Gweinidog a Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd.
4. Er mwyn helpu i adfer yn wyrdd, yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) gweithio gyda Llywodraeth y DU a nodi cynllun i ddarparu miloedd o swyddi coler werdd ar gyfer economi wyrddach;
b) cyflwyno addewidion allweddol ar frys fel Bil aer glân, gwahardd plastigau untro at ddefnydd anfeddygol, a chynllun dychwelyd ernes;
c) creu swyddfa annibynnol ar gyfer diogelu'r amgylchedd a newid hinsawdd i Gymru, a fydd yn dwyn Llywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus i gyfrif wrth fynd i'r afael â newid hinsawdd;
d) darparu buddsoddiad pellach mewn ynni gwynt morol ac alltraeth; a
e) diweddaru'r ddeddfwriaeth bresennol a'r rheolau cynllunio i bennu targedau a cherrig milltir hirdymor ar gyfer adfer natur yn ogystal â mandadu enillion net bioamrywiaeth ar ddatblygiadau newydd.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
13 |
0 |
37 |
50 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1. Lesley Griffiths (Wrecsam)
Dileu pwynt 4 ac ychwanegu pwyntiau newydd:
Yn gresynu at y gostyngiad o flwyddyn i flwyddyn mewn termau arian parod o'r cyllid cyfalaf sydd ar gael o ganlyniad i fethiant adolygiad o wariant Llywodraeth y DU i fynd i'r afael â'r argyfwng brys yn yr hinsawdd a natur, gan leihau cyllideb gyfalaf Llywodraeth Cymru 11 y cant mewn termau real erbyn 2024-25 o'i chymharu ag eleni.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) lunio cynllun gweithredu sgiliau net sero sy'n hyrwyddo gwaith teg i gefnogi newid teg;
b) cyflwyno Bil aer glân i sefydlu fframwaith gosod targedau ansawdd aer, a fydd yn ystyried canllawiau Sefydliad Iechyd y Byd;
c) sefydlu corff goruchwylio amgylcheddol i Gymru a chyflwyno targedau statudol i fynd i'r afael â'r argyfwng natur yng Nghymru.
Yn galw ar Lywodraeth y DU i:
a) gydnabod uchelgais Cymru i wahardd plastigau untro drwy wneud rheoliadau i beidio eu cynnwys o fewn cwmpas Deddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020;
b) diwygio Deddf y Diwydiant Glo 1994 i alluogi gweithredu polisi Llywodraeth Cymru i osgoi echdynnu tanwydd ffosil;
c) disodli, yn llawn, arian a dderbyniwyd yn flaenorol gan yr Undeb Ewropeaidd i alluogi buddsoddi yn natblygiad y diwydiant ynni morol yng Nghymru;
d) cefnogi trydaneiddio rheilffyrdd prif reilffordd Gogledd Cymru a phrif reilffordd De Cymru fel cam sylweddol tuag at system drafnidiaeth gyhoeddus net sero.
Deddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020 (Saesneg yn unig)
Deddf y Diwydiant Glo 1994 (Saesneg yn unig)
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
26 |
0 |
24 |
50 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Gan fod gwelliant 1 wedi’i dderbyn, cafodd gwelliant 2 ei ddad-ddethol.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi bwriad Llywodraeth Cymru i hyrwyddo adferiad gwyrdd yn ystod chweched tymor Senedd Cymru.
2. Yn nodi ymhellach gynllun 10 pwynt Llywodraeth y DU ar gyfer chwyldro diwydiannol gwyrdd.
3. Yn croesawu penodiad Gweinidog a Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd.
4. Yn gresynu at y gostyngiad o flwyddyn i flwyddyn mewn termau arian parod o'r cyllid cyfalaf sydd ar gael o ganlyniad i fethiant adolygiad o wariant Llywodraeth y DU i fynd i'r afael â'r argyfwng brys yn yr hinsawdd a natur, gan leihau cyllideb gyfalaf Llywodraeth Cymru 11 y cant mewn termau real erbyn 2024-25 o'i chymharu ag eleni.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) lunio cynllun gweithredu sgiliau net sero sy'n hyrwyddo gwaith teg i gefnogi newid teg;
b) cyflwyno Bil aer glân i sefydlu fframwaith gosod targedau ansawdd aer, a fydd yn ystyried canllawiau Sefydliad Iechyd y Byd;
c) sefydlu corff goruchwylio amgylcheddol i Gymru a chyflwyno targedau statudol i fynd i'r afael â'r argyfwng natur yng Nghymru.
6. Yn galw ar Lywodraeth y DU i:
a) gydnabod uchelgais Cymru i wahardd plastigau untro drwy wneud rheoliadau i beidio eu cynnwys o fewn cwmpas Deddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020;
b) diwygio Deddf y Diwydiant Glo 1994 i alluogi gweithredu polisi Llywodraeth Cymru i osgoi echdynnu tanwydd ffosil;
c) disodli, yn llawn, arian a dderbyniwyd yn flaenorol gan yr Undeb Ewropeaidd i alluogi buddsoddi yn natblygiad y diwydiant ynni morol yng Nghymru;
d) cefnogi trydaneiddio rheilffyrdd prif reilffordd Gogledd Cymru a phrif reilffordd De Cymru fel cam sylweddol tuag at system drafnidiaeth gyhoeddus net sero.
Deddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020 (Saesneg yn unig)
Deddf y Diwydiant Glo 1994 (Saesneg yn unig)
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
37 |
0 |
13 |
50 |
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.
Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, am 17.54 cafodd y trafodion eu hatal dros dro i ganiatáu egwyl technegol cyn y Cyfnod Pleidleisio.
8 Cyfnod Pleidleisio
Dechreuodd yr eitem am 18.00
Crynodeb o Bleidleisiau
9 Dadl Fer
Dechreuodd yr eitem am 18.02
NDM7812 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
'Gwrandewch arnom ni. Cefnogwch ni.': yr angen i sicrhau mynediad at gefnogaeth iechyd meddwl i bobl ifanc
Daeth y cyfarfod i ben am 18.28
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mawrth, 9 Tachwedd 2021